Signed in as:
filler@godaddy.com
Clay and Vapour, has been designed and led by professional ceramicist Jack Welbourne, curator Zoë Gingell, and a team of external mentors.
Combining tutored masterclasses and making, participants were introduced to new concepts and techniques, alongside visits and introductions to studios outside the locale.
Learning to master the process of soda firing, kiln building processes and visiting other studios, the makers developed connections among a community of makers, whilst extending their own making language.
Dewisiodd Cardiff MADE dri cydymaith: Hamish Symonds, George Akerman a Evan Jones i ymuno â'r cyntaf o'n cynlluniau preswyl mewn practis; dyluniwyd ac arweinwyd Clay and Vapour gan y seramegydd proffesiynol, Jack Welbourne, y curadur Zoë Gingell, a thîm o fentoriaid allanol. Yn cyfuno dosbarthiadau meistr wedi’u tiwtora a chreu, mae cyfranogwyr yn cael eu cyflwyno i gysyniadau a thechnegau newydd, ochr yn ochr ag ymweliadau a chyflwyniadau i stiwdios tu hwnt i’r gymdogaeth. Dysgwyd sut i weithio gyda thanio llysnur, prosesau adeiladu odyn cafwyd cyfle i ymweld â stiwdios eraill a datblygu cysylltiadau gyda chymuned o wneuthurwyr, wrth ehangu eu hiaith greadigol.
Clay & Vapour short documentary by Roger Graham, following the Associates project leadingup to the exhibtion
AMDAN
Mae Cardiff MADE wedi dewis tri cydymaith i ymuno â'r cyntaf o'n cynlluniau preswylio mewn practis wedi’i ddylunio a’i arwain gan y seramegydd proffesiynol, Jack Welbourne a thîm o fentoriaid.
Mae Clay and Vapour, wedi ei ddylunio i wthio gweithio mewn clai, drwy archwilio technegau newydd, a chreu corff o waith newydd ar gyfer arddangosfa Chwefror-Mawrth 2024 yn Oriel MADE. Bydd yn gyfle i weithio gyda thanio llysnur, prosesau adeiladu odyn ac ymweld â stiwdios eraill i ddatblygu cysylltiadau gyda chymuned o wneuthurwyr.
Yn cyfuno dosbarthiadau meistr wedi’u tiwtora a chreu, mae cyfranogwyr yn cael eu cyflwyno i gysyniadau a thechnegau newydd, ochr yn ochr ag ymweliadau a chyflwyniadau i stiwdios tu hwnt i’r gymdogaeth. Yn tynnu ar arbenigedd, ei nod yw gwthio ffiniau creadigol artistiaid ‘Associates’ i alluogi casgliad o waith newydd cyffrous i’w arddangos yn 2024.
ABOUT
Cardiff MADE has chosen three associates to join the first of our practice based residency schemes; Clay and Vapour, designed and led by professional ceramicist, Jack Welbourne and a team of mentors.
Combining tutored masterclasses and making, participants are introduced to new concepts and techniques, alongside visits and introductions to studios outside the locale. Drawing on expertise; it aims to push the creative boundaries for the Associates artists to enable an exciting collective body of new work to be exhibited in 2024.
Clay and Vapour aims to push working in clay through exploring new techniques, to creat a new body of work for exhibition February-March 2024 at MADE Gallery. It will be a chance to work with soda firing, kiln building processes and visit other studios to develop connections with a community of makers.
Jack is a potter living and working in Cardiff, Wales. Jack studied ceramics at Plymouth College of Art, Cardiff Metropolitan University and the University of Design and Craft Gothenburg. During his studies he also apprenticed with Jeremy Steward of Wobage Workshops. After studying Jack worked for a year in a production pottery in the Rhondda valley before setting up his current studio One Wall, in 2015.
Alongside Jack, Jeremy Steward and Micki Schloessingk, two long-established and highly regarded vapour glazing potters, will be mentoring associates through workshops, group feedback, and visits to their potteries.
//
Mae Jack yn grochenydd sy’n byw a gweithio yng Nghaerdydd. Fe astudiodd Jack serameg yn Plymouth College of Art, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac University of Design and Craft Gothenburg. Yn ystod ei gyfnod astudio bu hefyd yn prentisio gyda Jeremy Steward o Wobage Workshops. Ar ôl astudio, fe weithiodd Jack am flwyddyn mewn crochendy cynhyrchu yng Nghwm Rhondda cyn sefydlu ei stiwdio bresennol One Wall yn 2015.
Ochr yn ochr â Jack, bydd Jeremy Steward a Micki Schloessingk, dau grochenydd anwedd hir sefydlog ac uchel eu parch yn mentora’r cymdeithion drwy weithdai, adborth grŵp, ac ymweliadau i’w crochendai.
Jeremy has made wood-fired salt-glaze at Wobage Workshops in rural Herefordshire, since the summer of 1995. He and his wife Petra Reynolds, also a potter, live with their two young sons, on the edge of the Royal Forest of Dean. They were invited to join the Wobage studios as part-time apprentices to Mick and Sheila Casson, a role they maintained until Mick’s death in 2003.
//
Mae Jeremy wedi bod yn creu gwydredd halen wedi ei grasu a choed tân yn Wobage Workshops yng nghefn gwlad yn Swydd Henffordd ers haf 1995. Mae e a’i wraig Petra Reynolds, sydd hefyd yn grochenydd, yn byw gyda’u meibion ifanc, ar gyrion Fforest Y Ddena. Cawsant wahoddiad i ymuno a Wobage Studios fel prentisiaid rhan amser i Mick a Sheila Casson, rôl y buont yn ei chynnal tan farwolaeth Mick yn 2003.
After travelling and exploring pottery in India in 1968 Micki returned to the UK and joined the studio pottery course at Harrow College of Art. Micki spent time working with traditional potters in France and Spain before moving to Yorkshire in 1975 to set up her pottery, making wood fired salt glaze tableware. Since 1987 she has been making pots on the Gower Peninsula in South Wales.
//
Ar ôl bod yn teithio ac yn archwilio crochenwaith yn India yn 1968, dychwelodd Micki i’r DU ac ymunodd y cwrs crochenwaith stiwdio yn Harrow College of Art. Ar ôl y cwrs fe dreuliodd Micki amser yn gweithio gyda chrochenwyr traddodiadol yn Ffrainc a Sbaen cyn symud i Bentham, yng Ngogledd Swydd Efrog yn 1975 a sefydlodd ei hymarferiad crochenwaith. Ers 1987 mae hi wedi bod yn creu potiau ym Mhenrhyn Gwyr yn Ne Cymru.
"In my current work I use my experience as a potter in conjunction with gathered materials to explore the distinction between ‘natural’ and ‘crafted’.
By using raw materials gathered during expeditions into the landscape together with refined materials, the way we view ‘natural’ and ‘crafted’ can become more about the ecosystems they interact with and less anthropocentric.
I specifically make use of slate as it behaves quite unexpectedly in the kiln, expanding and semi-melting, in conjunction with porcelain. My work is based in the traditions of pottery, but I aim to expand and explore more than regular pots and into sculpture as well."
///
Yn fy ngwaith cyfredol, dwi’n defnyddio fy mhrofiad fel crochenydd ar y cyd â deunyddiau wedi ei gasglu i archwilio’r gwahaniaeth rhwng ‘naturiol’ a ‘wedi ei grefftio’.
Gan ddefnyddio deunyddiau crai wedi eu casglu yn ystod anturiaethau yn y tirwedd ar y cyd a deunyddiau coeth, mae’r modd rydym yn gweld ‘naturiol’ ac ‘wedi ei grefftio’ yn gallu troi’n rhywbeth mwy am yr eco amgylchedd maent wedi ymwneud â, a llai dynol.
Rydw i’n benodol yn creu defnydd o lechen gan ei fod yn ymddwyn yn eithaf annisgwyl yn yr odyn, yn ehangu a’n hanner-toddi, mewn perthynas â phorslen. Mae fy ngwaith yn seiliedig ar draddodiadau mewn crochenwaith, ond rydw i’n ceisio ehangu ac archwilio’n bellach na llestri arferol drwy gerflunwaith.
I make functional ceramics inspired by British folk pottery traditions with a focus on gestural mark making, using thin slips to create dynamic surface texture.
Working from a base of traditional knowledge using recognizable familiar forms bridges a gap between artist and viewer allowing them to appreciate smaller details otherwise left unnoticed.
The intimate and unpretentious setting of the home is what draws me to create functional pottery, allowing the viewer to find new details in the work through daily use.
//
Rydw i’n creu serameg at ddiben wedi ei ysbrydoli gan draddodiadau crochenwaith gwerin Brydeinig, gyda ffocws ar greu marciau ystumiol, yn defnyddio slipiau i greu arwyneb deinamig.
Mae gweithio o sylfaen o wybodaeth draddodiadol wrth ddefnyddio ffurfiau adnabyddus yn pontio’r bwlch rhwng yr artist a’r derbynnydd, gan ganiatáu nhw i werthfawrogi’r manylion llai byddai fel arall yn mynd yn ddisylw.
Amgylchedd anffurfiol y cartref sy’n fy nhynnu i greu crochenwaith at ddiben, gan ganiatáu’r gwyliwr i ddarganfod manylion newydd yn y gwaith drwy ddefnydd dyddiol.
My creative process revolves around collaborating with natural materials and a gas kiln. With meticulous precision, I shape each piece, but then surrender it to the natural world, allowing its materiality to express itself.
Each kiln firing becomes an experiment, resulting in unique surfaces that bear the story of the journey each piece has embarked upon. Since my first gas firing I have been captivated by this wild and unpredictable alchemy of reduction firing.
The opportunity to engage in vapour firing during this residency holds tremendous appeal to me. It presents a chance to explore new territories and unlock previously untapped potential within my practice.
//
Mae fy mhroses greadigol yn cylchdroi o gwmpas cydweithio gyda deunyddiau naturiol ac odyn nwy. Gyda manylder, rydw i’n siapio pob darn, ond yna dwi’n eu hidio i’r byd naturiol, gan adael i’r deunydd fynegi ei hun.
Mae pob taniad yn yr odyn yn troi’n arbrawf, gan arwain at arwynebau unigryw sy’n cario stori taith pob darn. Ers fy nhaniad nwy cyntaf, rydw i wedi ymddiddori yn natur wyllt ac anrhagweladwy'r alcemi o ostyngiad taniad.
Apeliodd y cyfle i ymwneud â thanio anwedd yn y preswyliad hwn yn fawr i fi. Roedd yn gyfle i archwilio tir newydd a darganfod potensial heb ei wireddu yn fy mhractis.
We use cookies to analyze website traffic and optimize your website experience. By accepting our use of cookies, your data will be aggregated with all other user data. Privacy Policy