• Home
  • Framed @ Made
  • Shop
  • About Us
  • ELECTRIC SOUP/IVW 2021
    • INPLICO
    • Home
    • Framed @ Made
    • Shop
    • About Us
    • ELECTRIC SOUP/IVW 2021
    • Featured Makers 2021
      • INPLICO
  • Sign In
  • Create Account

  • Orders
  • My Account
  • Signed in as:

  • filler@godaddy.com


  • Orders
  • My Account
  • Sign out

Signed in as:

filler@godaddy.com

  • Home
  • Framed @ Made
  • Shop
  • About Us
  • ELECTRIC SOUP/IVW 2021

Account


  • Orders
  • My Account
  • Sign out


  • Sign In
  • Orders
  • My Account

Tales from the Cutting Room Floor

Cliciwch yma i archebu'ch slot nawr

Exhibition Preview:

Arddangosfa o waith Lucia Jones

Mae MADE Gallery yn falch o gyflwyno gwaith newydd gan enillydd Gwobr Agored Haf MADE 2019 Lucia Jones. Wedi ei gynhyrchu dros y 6 mis diwethaf yn ystod y cyfnod cloi, mae’r paentiadau yma wedi eu creu drwy broses ddetholus a thechnegol i adrodd stori eu hunain.


Gan lunio o’r delweddau sinematig o gomedïau rhamantus y 90au a chlasuron cwlt, mae gwaith Lucia Jones yn parhau gyda’r broses o archwilio materoldeb perthynas paent gyda chof drwy fachu gweddau o fanylion arwynebol fel cerbyd i afael ar yr ansylweddol. Yn rhannol llyfr lloffion a’n rhannol gwaith collage. mae’r elfennau hyn yn gorwedd ochr wrth ochr wedi newid gweledol ond cynnil y cyd-destun. Mae rhannau mewn ffocws eglur tra mae wynebau yn gymylog gan orchuddio unrhyw gydnabyddiaeth amlwg. Rydym yn anghyffyrddus yn yr arferedig, mae rhywbeth o’r lliw, manylyn sy’n camu i mewn i ffocws yn yr un modd rydym yn ailchwarae golygfa o’r cof. Maent yn cyflwyno’r cwestiwn o fersiwn pwy yw hwn. ydyw’n berchen i ‘r ffigwr yn y darlun? Wedi ei dynnu o naratif y ffilm – yn y bôn, ni’n hunain rydym yn llunio wrth lenwi’r bylchau. Rydym yn ysgrifennu’r olygfa o’r hyn sy’n weddill – wrth i’r llinell drothwyol o rywbeth arall fod yno i’n hatgoffa o’r posibilrwydd arall na allwn ei weld.Mae tafelli o’r dychmygol a’r gwirionedd yn sefyll ar wyneb y cynfas yn gwasanaethu fel gweddillion gogrynedig ac arteffactau o’r gweladwy a phrofiad. Yn bersonol ac amhersonol ar yr un pryd, maent yn crybwyll gofod tameidiog wrth alw ar fyd arall neu fyd mewnol.


Mae’r arddangosfa yn parhau hyd at Sadwrn Tachwedd 7fed 2020. Gwnaethpwyd y prosiect hwn yn bosibl trwy arian gan Gronfa Loteri Genedlaethol Cyngor Celfyddydau Cymru.  


BIO / CEFNDIR :


Mae Lucia Jones yn beintwraig Gymreig wedi ei lleoli yng Nghaerdydd. Ers graddio oBrifysgol Falmouth yn 2014 mae hi wedi arddangos ledled y DU mewn sioeau unigola sioeau grŵp gan gynnwys Gwobr Beintio BEEP 2018. Mae ei gwaith yn ymddangosmewn casgliadau preifat yn y DU, UDA, Hong Kong ac Awstria. 


MWY O WYBODAETH: BEEP


Mae ‘Tales from the Cutting Room Floor’ yn rhan o’r Arddangosfa Peintio EilflwyddBeep. Fe ganwyd Beep yn 2012 'i nod yw denu artistiaid cyfoes gorau ledled y byd iGymru. gan bwysleisio rhagoriaeth mewn cynnwys, estheteg, techneg a deunydd.Mae Beep hefyd yn darparu a meithrin rhwydwaith addysgiadol ar gyfer peintwyr aphobl sydd â diddordeb mewn peintio cyfoes drwy godi ymwybyddiaeth o waithartistiaid a chyfleoedd artistiaid ledled y DU ac ymhellach. Wedi ei ganoli o amgylch Gwobr Beintio Ryngwladol Beep a gynhelir eleni yngNgaleri Elysium, Abertawe, bydd yr ŵyl yn ymddangos mewn lleoliadau ar draws yddinas (yn dechrau Sadwrn 3ydd Hydref) ac yng Nghaerdydd (dechrau Sadwrn 10fedHydref). Mae hefyd digwyddiadau ychwanegol yn Sir Gaerfyrddin a Llundain.Am fwy o wybodaeth am y lleoliadau a’r digwyddiadau ewch at wefan Beep sef www.beeppainting.com

image1476

CATALOG :

https://issuu.com/cardiffm.a.d.e/docs/tales_from_the_cutting_room_floor_catalogue

All works within the exhibition are for sale. We are offering 0% interest payment plans for the paintings; to reserve any of the work, please visit our shop here to place a  50% reservation deposit and a member of the M.A.D.E Team will be in contact. 

Rhestr pris, Tales from the Cutting Room Floor (pdf)

Download

Digwyddiadau

Exhibition Opening : Private View

10.10.20

Mae'r arddangosfa yn agor ar Sadwrn y 10fed o Hydref gyda slotiau preifat i ymweld ar hyd y dydd. Wedi'i rheoli drwy system o amseroedd wedi eu trefnu ymlaen llawn, bydd Cyfarwyddwr yr Oriel a'r Artist ar gael i ateb cwestiynnau yn ein iard wedi eich slot (gan gadw at ganllawiau COVID cyfredol). 

In Conversation

15.10.20

Bydd Lucia Jones yn sgwrsio gyda chyfarwyddwr galeri MADE, Zoë Gingell am ei gwaith. A bydd linc Zoom yn cael ei anfon o flaen llaw i’r rhai fydd yn mynychu.


Cliciwch yma i gael y ddolen.


Copyright © 2021 CardiffMADE - All Rights Reserved.

41 Lochaber Street, Cardiff, CF24 3LS

  • Contact
  • About Us
  • Privacy Policy
  • Archive
  • Reviews