Signed in as:
filler@godaddy.com
Mae’r artist Oisín McDaid, wedi'i swyno gan groestoriad o bortreadau traddodiadol a thechnoleg flaengar. Mae McDaid, trwy ei baentiadau yn archwilio'r cysyniad o hunaniaeth yn yr oes ddigidol.Mae’r artist yn ceisio creu portreadau sy’n cyfuno byd blaengar celf ddigidol gydag arferion traddodiadol o beintio a ‘DeCollage’Mae McDaid yn defnyddio A.I. i greu delweddau fel arf i herio syniadau traddodiadol o gynrychiolaeth.Trwy ei ludweithiau cyfrwng cymysg mae McDaid yn archwilio asio ‘cyffyrddiad dynol’ paentio â’r delweddau artiffisial i greu gweithiau sy’n procio’r meddwl a gwthio ffiniau.Mae McDaid yn dymuno defnyddio ei waith i danio dadl bryfoclyd ynghylch y pryderon presennol o ble mae’r ffiniau real ac afreal yn uno, lle mae dilysrwydd, awduraeth a chynhyrchu delweddau yn cael eu herio o fewn y celfyddydau gweledol.Nod y gwaith a gynhyrchir gan McDaid yw sbarduno sgyrsiau am rôl technoleg wrth lunio ein dealltwriaeth o hunaniaeth a’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn ddynol.”
@oisinmcdaid.art
Mae Charlie yn artist rhyngddisgyblaethol wedi'i lleoli yn Ne Cymru. Mae ei hymarfer yn amrywio o ymatebion safle-benodol, ffotograffiaeth, gosodiadau ffilm, dogfennaeth a pherfformiad byw. Mae ganddi radd BA Anrhydedd mewn Ffotograffiaeth o Brifysgol De Cymru. Ers 2023, mae hi wedi mabwysiadu agwedd draws bersonol fyfyriol, ac mae gwaith Charlie yn archwilio’r croestoriad rhwng y seicolegol a’r ysbrydol trwy wthio cyfyngiadau canfydded y corff a’r meddwl. Gan ymateb yn aml i safleoedd penodol gyda synthesis o `athroniaeth Butoh a chorffwaith somatig mae'n defnyddio sain, gair llafar a gwrthrychau i gonsurio'r corff dan bwysau i gyflwr o ddod, yn arf i wyrdroi hierarchaethau canfyddiad rhwng y gweladwy a'r anweledig. Mae gan gyfyngder, tensiynau a gofod bresenoldeb thematig cyson yn ei gwaith, themâu trawsffurfio, a thrawsnewid trwy ddulliau amseryddol. Mae perfformiadau Charlie yn aml yn ddwys, ac yn atmosfferig, gan gyflwyno bregusrwydd ac amwysedd, gan wahodd y gwyliwr i brofi ymateb cinesthetig, rhywbeth sy’n cael ei deimlo a’i synhwyro trwy symudiad mewnol sy’n creu llinell o gysylltiad â phrofiad gweledol.
Rwy'n beintiwr olew o Ddyfnaint sydd wedi graddio'n ddiweddar gyda gradd baglor mewn Celfyddyd Gain o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Rwyf wedi fy lleoli yng Nghaerdydd ar hyn o bryd ac mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar ofodau ac eiliadau dibwrpas o ddydd i ddydd. Rwy’n cymryd delweddau o bobl, lleoedd a gwrthrychau sy’n cynrychioli naratif rhydd ond theatraidd o’n gofodau ymylol. Mae'r rhain yn cael eu golygu a’u paentio trwy gyfrwng paent olew. Nod fy ngwaith yw crynhoi hanfod anniriaethol cyfyngoldeb trwy leoli'r bob dydd mewn byd ychydig yn haniaethol, gan gymryd amser i fyfyrio ar natur y trydydd gofod a'r rhyfedd. Credaf y gall archwilio’r cysyniadau hyn fy helpu i ddeall y rhannau o’n bywydau sy’n bodoli y tu allan i baradeimau cymdeithasol.
Fighting in back yard
Teeth cut through lip
Outside fight boys in the
street in front of our parents
Child burns ants with
magnifying glass and
stamps on them
Mia Roberts a gwblhaodd ei MA mewn Celfyddyd Gain o Brifysgol Met Caerdydd yn ddiweddar.
Mae Mia yn gweithio ar draws print, cerflunwaith ac ymateb penodol i'r safle.
We use cookies to analyze website traffic and optimize your website experience. By accepting our use of cookies, your data will be aggregated with all other user data. Privacy Policy