Signed in as:
filler@godaddy.com
Signed in as:
filler@godaddy.com
What is the inspiration for your most recent collection featured at MADE?
I very rarely start carving with a preconceived idea of what I want to make. This is often because my designs are influenced by the natural material. I usually just split the timber and decide in the moment what type of spoon to make depending on the shape of the wood grain etc. It’s often a changeable process as I might need to work around a split or a knot in the wood. Each item I make is unique, and my current collection is from wood that I sourced in the Brecon Beacons and includes Beech, Cherry, Sycamore, Damson and Birch.
When and how did you realise that working with wood was something you wanted to do?
Since I was young, we always had a shed and my father encouraged me to use the tools he had and inherited from his father. I found that I enjoyed working with wood and that I could make simple items I could give as gifts to friends and family, and that most people really appreciated something that was made by hand. I’m mostly self taught but I did do a day course in spoon carving with a Greenwood worker called Sharif Adams. He first inspired me to make spoons in the traditional Scandinavian style using the techniques taught in slöjd handcraft.
How does the process inspire you ?
Greenwood working and spoon carving in particular can be a very meditative activity. I find it helps me with my mental health, which has always been something I’ve had difficulties with. Sometimes it can be frustrating if for example I’ve been carving a spoon all weekend only to find it cracks when drying, but it’s all part of the process and it gets easier to accept the failures the more you make.
What are your ambitions for this year ?
I’d love to be in a position in the future to be able to carve wood for a living and possibly teach others the joys of spoon carving but for now I just continue to make more spoons whenever I can!
Yn cyflwyno Henry Cole a'i gasgliad o lwyau a chelfi pren wedi'u gwneud a llaw, ar gael drwy MADE. Gan ddefnyddio pren lleol o'r Bannau Brycheiniog, mae pob darn yn ddibynnol ar amlinellau gwreiddiol y defnydd crai, gan gynnig dyluniad unigryw sy'n taro cydbwysedd perffaith rhwng ffurf naturiol a swyddogaeth. Ffotograffiaeth gan Simon Ayres.
Beth yw'r ysbrydoliaeth ar gyfer eich casgliad diweddaraf yn MADE?
Anaml iawn y bydda i’n dechrau cerfio gyda syniad ymlaen llaw o'r hyn yr wyf am ei wneud. Yn aml y rheswm am hyn yw bod fy nyluniadau’n cael eu dylanwadu gan y deunydd naturiol. Fel arfer, rydw i'n hollti'r pren ac yn penderfynu ar y pryd pa fath o lwy i'w gwneud yn dibynnu ar siâp graen y pren ac ati. Mae'r broses yn gallu newid wrth i mi orfod gweithio o gwmpas hollt neu gainc yn y pren. Mae pob eitem rwy'n ei gwneud yn unigryw, ac mae fy nghasgliad presennol wedi’i wneud o bren o Fannau Brycheiniog ac mae'n cynnwys Ffawydd, Ceirios, Sycamorwydden, Eirin Hir a Bedw.
Pryd a sut wnaethoch chi sylweddoli bod gweithio gyda phren yn rhywbeth roeddech chi am ei wneud?
Pan oeddwn i'n ifanc, roedd gennym ni sied bob amser ac roedd fy nhad yn fy annog i ddefnyddio'r offer yr oedd wedi’i etifeddu gan ei dad. Sylweddolais fy mod yn mwynhau gweithio gyda phren a fy mod yn gallu gwneud eitemau syml y gallwn eu rhoi fel anrhegion i ffrindiau a theulu, a bod y rhan fwyaf o bobl yn gwerthfawrogi rhywbeth wedi’i wneud â llaw yn fawr. Rwyf wedi dysgu fy hun i raddau helaeth, ond fe wnes i gwblhau cwrs undydd i ddysgu sut i gerfio llwyau gyda chrefftwr coed o’r enw Sharif Adams. Cefais fy ysbrydoli ganddo i wneud llwyau yn yr arddull Sgandinafaidd traddodiadol gan ddefnyddio'r technegau a addysgir mewn crefftau llaw slöjd.
Sut mae'r broses yn eich ysbrydoli?
Gall gweithio gyda choed a cherfio llwyau’n benodol fod yn weithgaredd sy’n rhoi cyfle i chi fyfyrio. Mae’n helpu fy iechyd meddwl, sydd wedi bod yn broblem i mi erioed. Weithiau gall fod yn rhwystredig, er enghraifft os bydda i wedi bod yn cerfio llwy drwy’r penwythnos ac yna’n sylwi ei bod yn cracio wrth sychu, ond mae hyn yn rhan o'r broses ac mae'n dod yn haws dderbyn na allwch lwyddo bob tro po fwyaf y byddwch yn eu gwneud.
Beth yw eich uchelgeisiau ar gyfer eleni?
Buaswn wrth fy modd bod mewn sefyllfa yn y dyfodol i allu gwneud fy mywoliaeth drwy gerfio coed ac o bosibl addysgu eraill i gerfio llwyau a chael pleser o’r grefft. Ond am y tro, mi fydda i’n parhau i wneud mwy o lwyau pryd bynnag y galla i!
Meet Henry Cole and his latest range of hand carved spoons and woodenware, currently available through MADE.
Using locally sourced wood from the Brecon Beacons, each piece is determined by the beauty of its existing contours of the raw material, offering truly unique designs that strike a perfect balance between natural form and function.
Visit his instagram @hanksforthespoons
Photography by Simon Ayres